top of page

Ymunwch â ni wrth i ni 
HYRWYDDO, RHANNU
and NORMALEIDDIO

cymorth i rieni yn y sector sgrîn.

Heading (5)_edited_edited.png

9.30am - 2pm, DYDD MAWRTH 23 MEDI 2025, CASTELL CAERDYDD

Dyw rhianta yn y sector sgrîn ddim yn hawdd. Oriau hir, ansicrwydd llawrydd, diffyg hyblygrwydd - ac eto, rydych chi'n dangos eich wyneb, yn jyglo, addasu a chreu.

Yr Uwchgynhadledd Dyfodol Teuluoedd yw’r lle i chi.

Mae'r digwyddiad undydd hwn yn dwyn ynghyd rieni sy'n gweithio ar draws y diwydiannau sgrîn, o ffilm a theledu i animeiddio a thu hwnt, lle i gysylltu, bod yn onest, dysgu a dod o hyd i ysbrydoliaeth.

Beth i'w ddisgwyl:

  • Sgwrsio di-flewyn-ar-dafod: Cewch glywed yn uniongyrchol gan gyd-rieni am y dewisiadau, y cyfaddawdau a'r creadigrwydd sydd eu hangen i wneud i bethau weithio - a sut nad oes dau lwybr yn edrych yr un fath.

  • Gwybod Eich Hawliau: Cyfle i feithrin gwybodaeth ymarferol am hawliau cyfreithiol, disgwyliadau cyflogwyr a ble i ddod o hyd i gymorth.

  • Adeiladu Cymuned: Cewch rannu eich stori, clywed stori eraill, a chysylltu â phobl sy'n deall heb farnu, pwysau nac esgus.

  • Llywio’r Dyfodol: Ymunwch mewn sesiwn gydweithredol, flaengar i ddiffinio beth mae rhiant-gyfeillgar wir yn ei olygu yn ein diwydiant a helpwch i yrru newid.

I bwy?

 

Gweithwyr llawrydd, cyflogeion, gweithwyr sy’n rhannu swyddi, gweithwyr llawn-amser, gweithwyr rhan-amser, unrhyw riant sy'n gweithio yn y sector sgrîn. P'un a ydych chi'n ffynnu, yn goroesi, neu rywle yn y canol. 

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael. Rydyn ni am glywed gan ystod eang o rieni ar draws rolau, profiadau a chefndiroedd - oherwydd mae pob stori yn bwysig, a phob llais yn cyfrif.

Gadewch i ni ddiosg y mwgwd, rhannu'r gwirionedd, a dychmygu rhywbeth gwell gyda'n gilydd. Bydden ni wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.

Beth sy'n digwydd ar y diwrnod?

 

9.30am - 2pm, Dydd Mawrth 23 Medi 2025, Castell Caerdydd

  • Cofio’r Hanfodion. Pam rydyn ni yma a pham mae'n bwysig.

  • Dod o hyd i'r llecyn cywir. Yr amgylchedd a'r cyd-destun rydych chi'n gweithio a magu plant ynddynt.

  • Raising your tent. Hear from other parents about the choices they have navigated.

  • Mwynhau'r olygfa. Ffyrdd newydd o wneud pethau a all fod o fudd i ni i gyd.

  • Cadw'r tân i losgi. Yr hyn y gallwn ni weithio arno yn y dyfodol a beth sy'n dod nesaf.

Dim ond hyn a hyn o leoedd, gwnewch gais nawr!

Family Futures Summit is fully funded by Media Cymru.

Venbridge Consulting is proud to support development and delivery of the event.

Terms, Privacy, Cookies.

  • LinkedIn
bottom of page